Baner Norwy ar hanner y mast (Gwifren PA)
Yn ôl adroddiadau yn Norwy, mae dyn 32 oed wedi “cydnabod y ffeithiau” ynglŷn â lladd mwy na 90 o bobol trwy saethu a ffrwydro.

Roedd cyfreithiwr Anders Breivik wedi cadarnhau hynny wrth y gwasanaeth darlledu cenedlaethol, NRK.

Mae asiantaeth newyddion o’r enw NTB hefyd yn dweud bod yr heddlu wedi dod o hyd i faniffesto a gafodd ei sgrifennu gan Breivik yn ymosod ar Foslemiaeth a chymysgu diwylliannau.

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau hynny ond fe fyddan nhw’n dwyn Breivik gerbron llys yfory er mwyn cael yr hawl i barhau i’w holi.

Yr ymosodiad

Fe gafodd saith eu lladd gan fom ynghanol y brifddinas, Oslo, ddydd Gwener ac yna, ychydig oriau’n ddiweddarach, fe dechreuodd y saethu ar ynys lle’r oedd gwersyll pobol ifanc wedi’i drefnu gan y Blaid Lafur, plaid y Llywodraeth.

Fe gafodd o leia’ 82 o bobol eu lladd yno, ar ynys Utoya, ond mae pedwar neu bump yn dal i fod ar goll.

Mae’n ymddangos bod y bom yn debyg i’r un a ddefnyddiwyd mewn ymosodiad yn Oklahoma yn 1995, gyda chymysgedd o wrtaith a thanwydd.

Yn y cyfamser, mae pobol Norwy’n holi pam ei bod wedi cymryd awr a hanner i gyrraedd yr ynys sydd ychydig gannoedd o lathenni o’r lan.

Dyma’r amserlen

  • Fe gafodd yr heddlu eu galw yno tan 50 munud ar ôl i’r saethu ddechrau.
  • Am nad oedd hofrennydd yr heddlu wrth law ac yn barod, fe gymerodd hi 20 munud iddyn nhw yrru at lan y llyn lle mae’r ynys.
  • Oherwydd problemau’n dod o hyd i gwch, fe gymerodd hi 20 munud arall iddyn nhw gyrraedd yr ynys.
  • Ar ôl cyrraedd, fe ildiodd Anders Breivik ar unwaith.