Ynys y lladdfa (Gwifren PA)
Mae’n amlwg erbyn hyn fod o leia’ 80 o bobol wedi marw mewn lladdfa ar ynys fechan yn Norwy.

Fe aeth dyn mewn dillad plismon ar sbri gwaedlyd yno gan saethu pobol oedd mewn gwersyll gwyliau a oedd dan adain plaid y Llywodraeth.

Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd achos y lladdfa, ond mae pennaeth yr  heddlu lleol yn dweud nad ymosodiad terfysgol oedd hwn, ond gwaith “gwallgofddyn”.

Mae’n ymddangos mai pobol ifanc oedd mwyafrif y rhai a gafodd eu lladd.

Arestio dyn

Mae dyn wedi cael ei arestio ac mae’r sianel deledu genedlaethol wedi cyhoeddi mai Anders Breivik yw ei enw a’i fod yn 32 oed.

Yn ôl ffynonellau lleol, roedd ganddo agweddau asgell dde a gwrth-Foslemaidd ond dyw hi ddim yn glir beth oedd wedi’i ysgogi.

Mae yna amheuaeth hefyd mai ef oedd wedi gosod bom a laddodd saith ym mhrifddinas Norwy ychydig oriau ynghynt.

Roedd honno wedi’i gosod yn agos at adeiladau’r Llywodraeth ac roedd Prfif Weinidog Norwy, Jens Stoltenberg, i fod i ymweld â’r ynys yn ddiweddarach heddiw.

Rhagor wedi anafu’n ddifrifol

Ar y dechrau, roedd heddlu’n credu mai tua deg o bobol oedd wedi eu lladd ar ynys goediog Utoya, tuag 20 milltir i’r gogledd-orllewin o Oslo, ond ar ôl chwilio’r ardal, fe ddaethon nhw o hyd i lawer rhagor.

Ac mae’n bosib y bydd nifer y meirw’n codi eto – mae llawer o bobol wedi eu hanafu’n ddifrifol ac mae’n bosib bod rhagor o gyrff sydd heb eu ffeindio eto.

Yn ôl llygaid dystion, roedd dyn mewn dillad heddwas wedi ymddangos ar yr ynys a galw pobol ato, cyn tynnu gwn a dechrau saethu.

Yn ddiweddarach, wrth i bobol geisio dianc, roedd wedi eu saethu yn y dŵr ac roedd llawer wedi esgus bod yn farw er mwyn goroesi.

Un o’r gwaetha’ erioed

Dyma un o’r lladdfeydd mwya’ o’i bath yn hanes y byd a’r ymosodiad gwaetha’ yn Ewrop ers bomiau Madrid yn 2004.

Does gan Norwy ddim profiad o ymosodiadau tebyg, nac ymosodiadau terfysgol chwaith ac mae’r Prif Weinidog wedi galw ar i bobol dynnu gyda’i gilydd gan ddweud na fydd eu democratiaeth yn cael ei chwalu gan ddigwyddiad o’r fath.