Enda Kenny
Mae Prif Weinidog Iwerddon wedi ymosod ar y Fatican, gan gyhuddo’r hierarchaeth Catholig o roi’r Eglwys o flaen plant sydd wedi dioddef trais.
Mewn beirniadaeth lem iawn ar agweddau Rhufain tuag at offeiriaid sy’n camdrin plant, fe rybuddiodd y Taoiseach Enda Kenny nad crefydd oedd yn rheoli Iwerddon.
“Am y tro cyntaf yn Iwerddon, mae adroddiad ynglŷn â chamdrin plant yn rhywiol wedi datgelu ymgais gan y Fatican i rwystro ymchwiliad yn y weriniaeth ddemocrataidd hon, lai na thair blynedd yn ôl – nid tri degawd yn ôl,” meddai.
Roedd trais ac artaith plant wedi cael “ei reoli”, meddai, er mwyn gwarchod grym ac enw da yr Eglwys.
‘Cuddio achosion cam-drin’
Daeth sylwadau’r Taoiseach ar ddechrau dadl arbennig yn senedd y Dail, yn dilyn cyhoeddi’r pedwerydd adroddiad mewn chwe blynedd i guddio achosion o gamdrin gan glerigwyr yr Eglwys.
Esgobaeth Cloyne yn Swydd Corc yw’r rhan diweddaraf o’r Eglwys Gatholig i gael ei chysylltu â chamdrin plant – gyda’r cyn archesgob John Magee wedi ei enwi’n benodol am gamarwain ymchwilwyr a bod yn gyfrifol am fethiannau “peryglus” wrth ddiogelu plant.
Aeth y Taoiseach yn ei flaen i gyhuddo’r Fatican o fynd yn hollol groes i’r “radicaliaeth, y gostyngeiddrwydd a’r trugaredd oedd yn syflaenol i ffurfio’r Eglwys Gatholig”.
“Nid yn Rhufain yr ydyn ni,” meddai. “Rydyn ni yng Ngweriniaeth Iwerddon. Gweriniaeth o gyfreithiau, hawliau a chyfrifoldebau, o drefn ddinesig gywir, lle na fydd troseddu nac agwedd drahaus at foesoldeb yn cael ei oddef na’i anwybyddu.”