Mae daeargryn wedi taro arfordir ynys Zakynthos yng Ngroeg, ond does dim adroddiadau o anafiadau na difrod hyd yn hyn.

Roedd y ddaeargryn, oedd yn mesur 5 ar y raddfa richter, wedi taro 62 milltir oddi ar arfordir de-orllewin yr ynys am 10.13am, yn ôl Sefydliad Geodeinameg Athens.

Roedd canolbwynt y ddaeargryn 217 milltir i ffwrdd o’r brifddinas Athens ei hun.

Groeg yw un o’r gwledydd mwyaf agored i ddaeargrynfeydd ar wyneb y ddaear, ac mae Zakynthos mewn ardal sy’n gyfarwydd iawn â gweithgaredd seismig. Ond hyd yn hyn, mae lefel y dinistr o’u herwydd yn parhau’n gymharol isel.