Arlywydd Saleh - ar ei orsedd ers 33 mlynedd
Mae arweinwyr protestiadau yn Yemen wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi ffurfio rhyw fath o lywodraeth wrthblaid, gyda’r bwriad o arwain y frwydr i gael gwared â chyfundrefn ormesol yr arlywydd.

Bwriad y grwp newydd ydi creu arweinyddiaeth unedig ar gyfer y degau o filoedd o bobol sydd wedi bod yn protestio ar y strydoedd yn Yemen ers pum mis.

Ond mae’n parhau’n aneglur sut y mae’r grwp yn bwriadu cadw rheolaeth, a dydi hi ddim yn glir faint o bwysau fydd hyn yn ei roi ar unben y wlad. Fe lwyddodd yr Arlywydd Saleh i ddal gafael mewn grym hyd yma, hyd yn oed wedi iddo deithio i Sawdi Arabia am driniaeth wedi iddo gael ei saethu ychydig fwy na mis yn ôl.

Fe ddaw’r cyhoeddiad am ffurfio’r grwp gwrthbleidiol ar ben-blwydd 33 mlynedd cyhoeddi Saleh yn arlywydd y wlad.