Barack Obama - a fydd America yn ildio i bwysau gan China?
Mae China wedi annog yr Unol Daleithiau i dynnu’n ôl y gwahoddiad estynwyd i’r arweinydd ysbrydol, y Dalai Lama, i gyfarfod â’r Arlywydd, Barack Obama.

Yn ôl China, gallai’r cyfarfyddiad wneud drwg i’r berthynas rhwng America a hithau.

Mewn datganiad heddiw, mae llefarydd y Weinyddiaeth Dramor, Hong Lei, wedi cadarnhau bod China yn gwrthwynebu unrhyw gyfarfyddiad rhwng y Dalai Lama ac unrhyw wlad arall, ac mae’n gofyn i’r Unol Daleithiau dynnu’r gwahoddiad yn ôl er mwyn osgoi ymyrryd ym materion cartref China.

Mae’r cyfarfod rhwng Barack Obama a’r Dalai Lama wedi ei drefnu er mwyn cyd-daro ag ymweliad yr arweinydd o Tibet â dinas Washington. Mae diswyl iddo aros yno am 11 diwrnod, ac mae digwyl hefyd i o leia’ 10,000 ddilynwyr y dydd droi allan yn y gobaith o’i weld.

Y tro diwetha’ i Barack Obama gwrdd â’r Dalai Lama, ym mis Chwefror y llynedd, fe lwyddodd i godi gwrychyn China, gan fod y wlad honno’n credu bod y Dalai Lama yn defnyddio’i deithiau i siarad o blaid annibyniaeth i Tibet oddi wrth China.