Milwyr yn Affganistan
Mae chwech o filwyr Affganistan wedi eu lladd yn ystod brwydr galed yn ngorllewin y wlad.

Mae llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Amddiffyn Affganistan wedi cadarnhau fod chwech o filwyr wedi eu lladd, a deg arall wedi eu hanafu brynhawn ddoe pan ymosododd gwrthryfelwyr arnyn nhw yn ardal Bala Buluk o dalaith Farah.

Mae wedi cadarnhau hefyd bod yr ymgyrch, sy’n cael ei harwain gan Fyddin Genedlaethol Affganistan, yn parhau yn yr ardal. Cafodd dwsin o wrthryfelwyr eu lladd yn ystod y frwydr a barodd rai oriau.

Bom NATO yn lladd

Mewn digwyddiad hollol annibynnol yn ne Affganistan, mae bom ar fin y ffordd gan NATO wedi lladd un o filwyr y cynghreiriaid heddiw. Fe gafodd un arall o filwyr y cynghreiriaid ei ladd ddoe mewn ymosodiad gan wrthryfelwyr yng ngorllewin y wlad.

Mae cyfanswm o 29 o filwyr rhyngwladol wedi cael eu lladd yn Affganista y mis hwn – 14 ohonyn nhw yn Americanwyr.