Mae dau o filwyr Nato wedi marw yn Afghanistan ar ôl cael eu saethu gan warchodwr arfog a oedd yn gweithio i lywodraeth y wlad.

Roedd y milwyr yn teithio gyda chonfoi i dalaith yng ngogledd y wlad pan ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhalaith Panjshir, tua 62 milltir i’r gogledd o’r brifddinas Kabul.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn a’u saethodd yn warchodwr a oedd yn gweithio i un o brif swyddogion gwasanaethau cudd y wlad. Roedd wedi stopio’r confoi, ac wedi tanio at y milwyr ar ôl dadl.

Roedd un o filwyr eraill Nato wedi tanio’n ôl a lladd y saethwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Nato eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.