Mae arthes wedi lladd dyn oedd yn cerdded gyda’i wraig ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone ar ôl iddyn nhw godi ofn ar yr anifail a’i heirth bach.

Dyma’r tro cyntaf i arth ladd person yn y parc ers 1986, ond y trydydd yn ardal Yellowstone ers ychydig dros flwyddyn.

Mae yna ragor o eirth a thwristiaid wedi bod yn crwydro’r ardal sy’n enwog am ei fynyddoedd a’i geiserau poeth.

Digwyddodd yr ymosodiad ddoe deuddydd yn unig cyn penwythnos prysuraf y flwyddyn yn y parc, ger Canyon Village, Wyoming.

Dywedodd swyddogion y parc fod yr arth wedi ymosod ei mwyn ei hamddiffyn ei hun yn erbyn y cerddwyr.

Roedd gwraig y dioddefwr 57 oed wedi galw’r gwasanaethau brys ar ei ffon symudol ac roedd cerddwyr eraill yn yr ardal wedi ymateb i’w chri am gymorth.

Dywedodd nad oedd hi wedi gweld yr arth yn ymosod ar ei gŵr. Taflodd ei hun i’r llawr pan welodd yr arth yn rhedeg tuag ati.

Mae Yellowstone yn gartref i rhwng 600 a 1,000 o eirth. Roedden nhw’n arfer bod yn brin yn yr ardal.