Jamie Bevan (llun o wefan y Gymdeithas)
Bydd achos Llys Heledd Melangell Williams a Jamie Bevan yn cael ei gynnal yn  Llys Ynadon Caerdydd, Plas Fitzalan, heddiw.

Mae’r ddau o Ferthyr Tudful a Nant Perris yn wynebu honiadau o dorri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

Fe fydd y Gymdeithas yn cynnal  rali  am 12.30pm cyn yr achos llys am 2pm. Ymhlith y siaradwyr fydd Leanne Wood AC a Gareth Miles.

Cwestiynau

Mewn rali cyn yr achos llys bydd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn cyfeirio at yr ymgyrch gan ddweud: “Brwydr y saithdegau a’r wythdegau cynnar oedd brwydr y sianel felly beth ydyn ni’n gwneud yma heddiw – a pham fod dau o’n haelodau yn wynebu achosion llys?

“Mae hon yn sianel i bawb, yn etifeddiaeth i bob un drwy Gymru – yn bobl sy’n gwylio bob dydd neu ond yn achlysurol, yn blant, yn oedolion, dysgwyr a’r di-Gymraeg. Fe enillwyd brwydr i sefydlu’r sianel rai degawdau yn ôl a nawr mae dyletswydd arnon ni i gyd i ymgyrchu – drwy ysgrifennu llythyr, wrthod talu’r drwydded deledu neu wneud beth bynnag y gallwn ni.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu fod cynllun Llywodraeth San Steffan i ariannu S4C drwy’r BBC a thorri cyllideb y sianel heb unrhyw sicrwydd o arian tu hwnt i 2015 yn bygwth dyfodol ac annibyniaeth y sianel.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dyma fydd yr “achos llys cyntaf ers 30 mlynedd dros ddyfodol S4C” – yr achos llys ddiwethaf oedd un Wayne Williams yn 1982.