Catherine a Ben Mullany
Fe fu farw Catherine Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yng nghefn ei phen ar ei mis mel yn Antigua, yn ôl patholegydd.

Roedd Dr Petra Miller-Nanton yn rhoi tystiolaeth yn achos llys dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o ladd Catherine Mullany a’i gŵr Benjamin.

Cafodd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, eu saethu ychydig dros bythefnos ar ôl diwrnod eu priodas, ar eu mis mêl ar Ynys Antigua yn y Caribî.

Roedd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe wedi bod yn aros yn y Cocos Hotel ar dde-orllewin yr ynys pan aeth o leiaf un saethwr i mewn i’w chalet wrth iddyn nhw gysgu.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu roedd Catherine Mullany eisoes wedi marw o glwyf i’w phen ar ôl i’r ymosodwr ei saethu.

Daeth i’r amlwg yn ystod yr achos llys ddoe fod Catherine Mullany wedi ei saethu yng nghefn ei phen ac wedi marw yn syth.

Dioddefodd Ben Mullany, o Ystalyfera, waedlif ar yr ymennydd ar ôl i fwled deithio drwy ei wddf ac i mewn i’w benglog.

Aethpwyd ag ef yn ôl i Ysbyty Treforys yn Abertawe ond fe fu farw wythnos ar ôl y saethu.

Mae Dr Petra Miller-Nanton ymysg 70 o lygaid-dystion sydd wedi eu galw i roi tystiolaeth yn ystod yr achos llys mis o hyd.

Mae Avie Howell a Kaniel Martin wedi pledio’n ddi-euog i lofruddio Ben a Catherine Mullany.

Mae’r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o ladd y siopwraig Waneta Anderson Walker yn yr un cyfnod, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys ar wahân am ddwy lofruddiaeth arall yn ddiweddarach.