Sydney
Daeth yr heddlu o hyd i gorff hen ddynes yn ei chartref, oedd wedi marw wyth mlynedd yn ôl heb i unrhyw un sylwi.

Doedd neb wedi gweld y ddynes oedd yn byw yn Sydney ers 2003, ond ni wnaeth unrhyw un, gan gynnwys ei theulu a’i chymdogion, alw’r heddlu.

Roedd y llywodraeth wedi parhau i dalu budd-daliadau i mewn i’w chyfrif banc, oedd heb ei gyffwrdd.

Dywedodd Heddlu New South Wales eu bod nhw wedi dod o hyd i weddillion corfforol yr hen ddynes ddydd Mawrth.

Roedd ei chwaer yng nghyfraith wedi ffonio’r heddlu gan ddweud nad oedd hi wedi gweld y ddynes, sydd heb ei henwi, ers 2003.

Roedd y ddau wedi ffraeo bryd hynny ac wedi penderfynu peidio siarad â’i gilydd.

Fe fyddai hi yn 87 oed fis nesaf pe bai hi’n fyw.

“Mae’n drist iawn fod dynes wedi gallu marw blynyddoedd maith yn ôl heb i neb sylwi,” meddai’r Prif Arolygydd Zoran Dzevlan.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n ystyried ei marwolaeth yn un amheus.