Daethpwyd o hyd i gerddwr ar ôl iddi dreulio 18 diwrnod mewn twll dwfn ym mynyddoedd Sbaen.

Roedd Mary Anne Goossens, 48, o’r Iseldiroedd wedi disgyn i’r twll ymysg cerrig ger Afon Chillar ar gyrion tref Nerja.

Doedden nhw ddim yn gallu ei hachub hi ar y pryd, ond gadawon nhw fwyd a dillad cyn cysylltu â’r gwasanaeth achub.

Roedd hi’n wan ond heb ei hanafu. Dywedodd y gwasanaethau brys fod ganddi rywfaint o fwyd pan ddechreuodd gerdded, ac wedi yfed dŵr o nant gerllaw.

Anfonodd y gwasanaethau brys hofrenydd i fynd a hi i’r ysbyty agosaf.