Roedd siopau a busnesau ar gau a dim sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yn ne India heddiw wrth i drigolion yr ardal gynnal streic deuddydd er mwyn galw am greu talaith newydd.

Mae mwy na dwsin o Aelodau Seneddol y wlad eisoes wedi ymddiswyddo o’r senedd gan alw am hollti talaith Andhra Pradesh er mwyn creu talaith newydd, Telangana.

Mae o leiaf 80 aelod o senedd y dalaith hefyd wedi ymddiswyddo.

Mae cefnogwyr yn dweud nad ydi gogledd talaith Andhra Pradesh wedi ei ddatblygu digon, ac wedi ei anwybyddu gan wleidyddion yn ne’r dalaith.

Roedd y gwleidydd Chandrasekhara Rao wedi bygwth llwgu ei hun hyd at farwolaeth yn 2009 gan alw am greu talaith newydd yno.

Ar ôl 11 diwrnod, cytunodd llywodraeth y Prif Weinidog Manmohan Singh i rannau’r dalaith yn ddwy, ond does dim byd wedi digwydd ers hynny.

Dywedodd y Gweinidog Cartref Palaniappan Chidambaram eu bod nhw’n cynnal trafodaethau ag Aelodau Seneddol yn y gobaith o ddatrys y problemau.

Roedd gan yr heddlu a milwyr bresenoldeb cryf ar strydoedd prifddinas y dalaith, Hyderabad, ond doedd dim adroddiadau am unrhyw drais.