Bashar Assad, Arlywydd Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi diswyddo llywodraethwr dinas allweddol yn y frwydr yn erbyn gwrthwynebwyr i’w gyfundrefn.

Cyhoeddodd SANA, asiantaeth newyddion y wladwriaeth, fod Assad wedi diswyddo llywodraethwr Hama – ond doedd y datganiad ddim yn rhoi unrhyw reswm dros y diswyddo.

Hama oedd un o’r dinasoedd lle bu’r ymosodiad gwaethaf gan y llywodraeth ar ei gwrthwynebwyr ers cychwyn y protestiadau yn erbyn cyfundrefn y teulu Assad, sy’n rheoli’r wlad ers 40 mlynedd.

Mae’r arlywydd wedi cynnig addewidion amwys o ddiwygiadau ar y naill law, gan adael i’w fyddin a’i luoedd diogelwch ymosod ar y protestwyr ar y llaw arall.

Yn ôl y gwrthwynebwyr mae’r llywodraeth wedi lladd dros 1,400 o bobl – protestwyr di-arfau yn bennaf – ers canol mis Mawrth, ond mae’r llywodraeth yn gwadu hyn.

Mae adroddiadau am 19 o bobl yn cael eu lladd ddoe wrth i luoedd byddin Syria ymosod ar ardal fynyddig gerllaw’r ffin â Thwrci.

Mae’n ymddangos mai bwriad y fyddin oedd rhwystro trigolion ardal Jabal al-Zawiya rhag ffoi i Dwrci, lle mae eisoes dros 10,000 o Syriaid eisoes yn llochesu mewn gwersylloedd i ffodaduriaid yno.