Cherating
Mae dynes o Wynedd wedi ei charcharu am 14 mis ym Malaysia am droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Mae Shivaun Orton, 41, sy’n fam i ddau blentyn 14 a 16 oed, yn dod o ardal Harlech.

Daethpwyd o hyd i werth £15,000 o gyffuriau ym mis Rhagfyr yn y busnes y mae hi a’i gwr, dyn lleol 47 oed o’r enw Abdul Harris Fadilah, yn ei redeg mewn tref wyliau o’r enw Cherating.

Roedd y ddau wedi pledio’n ddi-euog i ddelio cyffuriau a meddu ar ganabis, amffetaminau a heroin. Ond fe’i cafwyd hi’n euog o bedwar cyhuddiad.

Bydd ei chyfnod hi’n y carchar yn cynnwys y cyfnod y mae hi eisoes wedi ei dreulio yno, felly mae disgwyl y bydd hi’n rhydd mewn tua chwe mis.

Dan ddeddfau Malaysia fe all gwerthwyr cyffuriau wynebu’r gosb eitha’.