George Papandreou
Mae Aelodau Seneddol Gwlad Groeg wedi dechrau trafod a ydyn nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â thoriadau llym i wariant cyhoeddus.
Os nad ydyn nhw’n cytuno i’r toriadau ni fydd y wlad yn cael y benthyciad gan y gymuned ryngwladol sydd ei angen arnynt er mwyn osgoi methdalu.
Mae disgwyl y bydd Senedd y wlad yn pleidleisio ar y mesurau hynod amhoblogaidd ddydd Mercher a dydd Iau.
Rhaid eu dilysu neu ni fydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Arian Ryngwladol yn rhyddhau’r benthyciad €12 biliwn nesaf.
Os nad yw hynny’n digwydd bydd Gwlad Groeg yn methdalu ynghanol mis Gorffennaf.
‘Effaith domino’
Os nad yw’r wlad yn gallu talu ei dyledion fe fyddai yn ergyd difrifol i fanciau a gwledydd sydd wedi buddsoddi ynddi.
Y pryder yw y bydd yn achosi ‘effaith domino’ allai arwain at rai o wledydd eraill Ewrop, gan gynnwys Portiwgal, Sbaen ac Iwerddon, yn methdalu.
Hyd yn oed os yw’r wlad yn derbyn y benthyciad, mae yna bryder mai methdalu fydd hi yn y pen draw am na fydd yn gallu talu’r ddyled yn ôl.
Mae gan y Prif Weinidog George Papandreou fwyafrif o bum sedd yn y Senedd 300 aelod, felly fe ddylai lwyddo i ddilysu’r mesurau.
Serch hynny mae yn wynebu gwrthwynebiad o fewn ei blaid ei hun ac mae o leiaf dau Aelod Seneddol wedi dweud eu bod nhw’n ystyried pleidleisio yn ei erbyn.
Mae arweinydd yr wrthblaid Geidwadol, Antonis Samaras, wedi gwrthod pwysau mawr gan swyddogion Ewropeaidd i gefnogi’r mesur.
Dywedodd ei fod yn cefnogi torri costau a phreifateiddio rhai cwmnïau, ond nad oedd yr amserlen a maint y toriadau yn realistig.
Bydd gweithwyr yn cynnal streic 48 awr yr wythnos yma, ac mae protestwyr wedi addo amgylchynu’r Senedd er mwyn atal yr Aelodau Seneddol rhag gallu pleidleisio ar y mesur.