Gwersyll ffoaduriaid yn Sri Lanka ar ddiwedd y rhyfel cartref
Mae’r Swyddfa Dramor wedi galw ar Lywodraeth Sri Lanka i gynnal ymchwiliad llawn ar ôl i raglen deledu ddangos tystiolaeth ddychrynllyd o droseddau hawliau dynol yno.

Fe ddarlledodd Channel Four luniau’n dangos milwyr Sri Lanka’n saethu pobol ddiamddiffyn yn eu pennau ar ddiwedd eu rhyfel yn erbyn gwrthryfelwyr Tamil.

Yn ôl cyflwynydd y rhaglen, Jon Snow, dyma oedd y lluniau gwaetha’ i’r sianel eu darlledu – lluniau fideo wedi eu cymryd ar ffonau symudol gan rai o’r milwyr.

Roedd rhai o’r lluniau ar Sri Lanka’s Killing Fields yn dangos pobol noeth wedi eu clymu ac yn cael eu saethu’n ddidrugaredd wrth i Lywodraeth Sri Lanka roi pen ar wrthryfel y Tamiliaid yn 2009.

Miloedd wedi marw

Roedd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig eisoes wedi awgrymu bod cymaint â 40,000 o bobol gyffredin wedi eu lladd ar ddiwedd yr ymladd, gyda throseddau gan y ddwy ochr.

Yn awr, yn ôl gweinidog yn y Swyddfa Dramor, Alistair Burt, mae’r lluniau newydd yn “dystiolaeth sy’n argyhoeddi” bod troseddau hawliau dynol wedi digwydd yn y wlad.

Ond, ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu anfon 40 o Damiliaid yn ôl i Sri Lanka – er eu bod yn dweud fod eu bywydau mewn peryg.