Yemen - yr ardal dan bwysau (NordNordWest CCA 3.0)
Mae adroddiadau gan swyddogion diogelwch yn awgrymu bod gwrthryfelwyr Islamaidd wedi cipio dinas arall yn ne Yemen.
Y gred yw bod rhai o gefnogwyr al Qaida ymhlith y grŵp sydd wedi meddiannu rhannau o ddinas al-Houta.
Y mis diwetha’, roedd grwpiau tebyg wedi cipio dwy ddinas arall yno – ers deng mlynedd mae gwledydd y Gorllewin wedi ofni y bydd Yemen yn troi’n gadarnle i Islamwyr eithafol.
Yn ôl rhai sylwebwyr, maen nhw’n cymryd mantais ar yr anhrefn yn y wlad ers i brotestiadau ddechrau yno yn erbyn y Llywodraeth bedwar mis yn ôl,
Ynghynt y mis yma, fe fu’n rhaid cludo’r Arlywydd i ysbyty yn Sawdi Arabia i gael triniaeth ar ôl ymosodiad gyda roced ar fosg lle’r oedd yn addoli.
Mae’r ddwy ochr yn parhau i wrthdaro yn y brifddinas, Sanaa, gyda disgwyl rhagor o ymladd yn fuan.