Barack Obama
Mae’r Arlywydd Obama wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y Cynrychiolydd Anthony Weiner i gamu o’r neilltu.

Dywedodd y byddai yn rhoi’r gorau i’w swydd dan yr un amgylchiadau.

Dywedodd Barack Obama wrth raglen Today NBC fod y lluniau rhywiol a’r negeseuon ar-lein a ddanfonodd Anthony Weiner at amryw o fenywod yn “hynod amhriodol”.

“Mae e wedi tynnu nyth cacwn i’w ben, ac mae wedi cydnabod hynny. Mae hefyd wedi codi vywilydd ar ei wraig a’i deulu,” meddai’r Arlywydd.

“Yn y pen draw, bydd rhaid gwneud penderfyniad fydd yn effeithio arno fe a’i etholwyr,” meddai, cyn ychwanegu: “Petawn i yn ei le e’, fe fyddwn i yn camu o’r neilltu.”

Dywedodd Barack Obama fod y gwasanaeth cyhoeddus yn golygu “gwasanaeth i’r cyhoedd. A phan ydych chi’n cyrraedd y pwynt lle, oherwydd dryswch personol, ’dy’ch chi’n methu gwasanaethu mor effeithiol ag sydd angen ar adeg pan fod pobol yn poeni am swyddi, morgeisi, a thalu eu biliau, mae’n siwr o fod yn bryd i chi gamu o’r neilltu.”

Daw sylwadau’r Arlywydd wrth i nifer o Gynrychiolwyr amlwg eraill hefyd alw am ymddiswyddiad Anthony Weiner, gan gynnwys cadeirydd y blaid, Debbie Wasserman Schultz.