Carwyn Jones
Mae dadansoddwr gwleidyddol wedi dweud fod pedwerydd tymor y Cynulliad wedi dechrau’n ddigon swrth.

Ond dywedodd Gareth Hughes fod pob un o’r pleidiau, nid y Blaid Lafur yn unig, ar fai am hynny.

“Mae yna ryw awyrgylch hunanfodlon iawn yma,” meddai Gareth Hughes a fu yn newyddiadurwr â ITV.

“Mae’r ddau wrthblaid yn chwilio am arweinwyr newydd ac yn pryderu’n fwy am faterion mewnol yn hytrach na bod yn wrthbleidiau.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pryderu oherwydd bod dau o’u haelodau wedi eu gwahardd.

“Ar y cyfan mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mwynhau cyfnod hawdd iawn.”

Esiampl yr Alban

Dywedodd Plaid Cymru fod y bai ar y Blaid Lafur, sydd wedi bod yn rhy araf wrth sefydlu beth yn union y maen nhw’n bwriadu ei wneud mewn llywodraeth.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi datganiad yn hwyrach ymlaen heddiw ynglŷn â blaenoriaethau ei weinyddiaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Serch hynny does dim disgwyl y bydd yn datgelu rhaglen deddfwriaethol llawn ei lywodreath am sawl wythnos, ac mae hynny wedi denu beirniadaeth o gyfeiriad Plaid.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y dylai Carwyn Jones ddilyn esiampl Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

“Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud yn blaen beth maen nhw eisiau ei wneud,” meddai.

“Maen nhw eisoes wedi derbyn sicrwydd gan San Steffan y byddwn nhw’n cael rwyfaint o rym i godi arian.

“Ond y cwbwl sy’n digwydd yng Nghymru yw bod Carwyn Jones yn dweud wrthon ni beth nad ydi e yn mynd i’w wneud.

“Ar ôl chwech wythnos, fe ddylai fod yn barod i ddweud wrthon ni beth mae e’n mynd i’w wneud.

“Dywedodd y Blaid Lafur eu bod nhw’n bwriadu sefyll cornel Cymru ac mae’n bryd iddyn nhw ddechrau gwneud hynny.”

Mwyafrif

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas ei fod yn synnu nad oedd Llafur wedi gwneud y gorau o’u mwyafrif yn y Senedd wrth i ddau Aelod Cynulliad gael eu gwahardd o’u seddi.

Mae gan y Blaid Lafur union hanner seddi yn y Cynulliad, ond cafodd dau Ddemocrat Rhyddfrydol, John Dixon ac Aled Roberts, eu gwahardd am dorri rheolau etholiadol.

Mae’n debygol na fydd gan y Senedd 60 AC unwaith eto nes fod ymchwiliad yr heddlu i’r mater wedi ei gwbwlhau.

“Ma’r Blaid Lafur wedi cael mwyafrif ar blat ac mae’n abswrd nad ydyn nhw’n Cymry mantais o hynny er mwyn gweithredu eu polisïau eu hunain,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Mae ganddyn nhw fwyafrif ond yn tindroi yn hytrach na gwnwud unrhyw beth dros Gymru.”

Toriadau S4C

Dywedodd Plaid Cymru eu bod nhw’n pryderu yn fawr am y toriadau i’r diwydiant darlledu yng Nghymru.

Maen nhw’n pryderu y bydd toriadau y Llywodraeth yn San Steffan yn arwain at golli swyddi ac yn gwanhau BBC Cymru ac S4C.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dreftadaeth, Bethan Jenkins, ei fod yn hanfodol datganoli darlledu o Lundain i Fae Caerdydd er mwyn cynnal diwydiant creadigol cryf yno.

“Dyw’r diwydiant darlledu yng Nghymru ddim yn gallu derbyn segurdod Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn fodlon gweld y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i ddinistrio S4C, BBC Cymru a nifer o swyddi annibynol sy’n dibynnau ar y diwydiant darlledu yng Nghymru.”