Michele Bachmann
Mae’r Gweriniaethwr Michele Bachmann wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu sefyll yn ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Mae’r gyngreswraig yn ffefryn ymysg ceidwadwyr eithafol mudiad y ‘Tea Party’ sy’n ei hystyried yn ddewis amgen i gyn-lywodraethwr dadleuol Alaska, Sarah Palin.

Cyhoeddodd ei bod wedi llenwi’r gwaith papur sydd ei angen iddi gymryd rhan yn y ras i ennill enwebiad ei phlaid er mwyn cael y cyfle i herio Barack Obama yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd ei bod hi’n bwriadu sefyll ym munudau cyntaf dadl rhyngddi hi a chwe ymgeisydd arall.

Mae Michele Bachmann, sy’n cynrychioli etholaeth yn Minnesota yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, wedi denu tyrfaoedd mawr ar draws yr Unol Daleithiau.

Mae hi o blaid toriadau mawr yng ngwariant y llywodraeth.

.Roedd y ddadl yn New Hampshire ddoe yn gyfle i ymgeiswyr y Gweriniaethwyr gael rhywfaint o sylw, chwe mis cyn y bydd y dalaith yn pleidleisio i ddewis ymgeisydd.

Penderfynodd yr ymgeiswyr ymosod ar Barack Obama yn hytrach na’i gilydd, gan ei feirniadu am beidio â gwneud digon i fynd i’r afael â’r economi.

Cyn lywodreathwr Massachusetts, Mitt Romney, yw’r ceffyl blaen ar hyn o bryd.