Yr Arlywydd Assad
Mae milwyr, hofrenyddion a thanciau byddin Syria wedi llwyddo i oresgyn tref yn y wlad lle’r oedd yr heddlu a milwyr wedi ymuno â’r gwrthryfelwyr.

Ymosododd milwyr wedi eu harwain gan frawd Arlywydd Syria ar dref Jisr al-Shughour – y gyntaf o sawl brwydr posib wrth i’r llywodraeth geisio dal ei gafael ar rym.

Roedd y frwydr yn un fer wrth i’r fyddin ddefnyddio grym sylweddol ac, erbyn dechrau’r prynhawn ddoe, doedd dim rhagor o sŵn brwydro i’w glywed yno.

Jisr al-Shughour yw’r dref gyntaf i gael ei chipio gan wrthryfelwyr ers dechrau’r protestiadau yn Syria ym mis Mawrth ac roedd ymateb yr Arlywydd Basher Assad yn deffro atgofion am ymosodiad ei dad ar yr un dref yn 1980.

Miloedd yn ffoi

Ffodd miloedd o bobol o’r dref am y ffin â Thwrci gan adael tua 60 o gyn-filwyr a 200 o drigolion heb eu harfogi i amddiffyn y dref.

Dywedodd y llywodraeth fod tri pherson wedi marw yn ystod y brwydro – un o’u milwyr nhw a dau o’r gwrthryfelwyr.

“Mae byddin Syria yn brwydro yn erbyn ei hunan,” meddai Muhieddine Lathkani, arbenigwr ar Syria sy’n byw yn Llundain. “Roedd ymateb y fyddin yn gryf am nad ydyn nhw eisiau i ragor o filwyr wrthryfela.”

Mae Twrci, sydd 12 milltir o’r dref, wedi cynnig lloches i fwy na 5,000 o bobol Syria yn ystod y dyddiau diwethaf.

Mae Prif Weinidog Twrci wedi cyhuddo llywodraeth Assad o “farbareiddiwch”.