Albertina Sisulu (o wefan wikipedia)
Mae Nelson Mandela wedi talu teyrnged i un o arwresau’r frwydr yn erbyn apartheid yn Ne Affrica.
Roedd Albertina Sisulu yn un o fawrion De Affrica, meddai’r cyn-arlywydd mewn neges a gafodd ei darllen yn ei hangladd heddiw.
Fe fu farw Albertina Sisulu yn ei chartref yn Johannesburg yr wythnos ddiwethaf yn 92 oed.
Fe ddaeth miloedd o alarwyr ynghyd i’r angladd yn stadiwm pêl-droed Soweto heddiw, wrth i neges Mandela gael ei darllen gan ei wraig Graca Machel.
Yn ei neges deimladwy, wrth restru’r ffrindiau a chydweithwyr a gollodd dros y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Mandela ei fod yn teimlo colli Albertina Sisula yn enwedig.
“Fe fyddwn i wrth fy moddd o fod yma heddiw ond fe fyddai’n rhy boenus i mi,” meddai’r gŵr 92 oed nad yw’n gwneud fawr ddim ymddangosiadau cyhoeddus bellach. Union flwyddyn yn ôl, fe gollodd ei or-wyres 13 oed, Zenani, mewn damwain car.
Galar cenedlaethol
Roedd y gwasanaeth heddiw’n dilyn wythnos o alaru cenedlaethol, gyda baneri’n chwifio ar hanner mast ledled De Affrica a’i llysgenadaethau tramor. Roedd yr Arlywydd Jacob Zuma wedi cyhoeddi y byddai angladd swyddogol gydag anrhydeddau milwrol – yr agosaf at angladd gwladol ar gyfer arlywyddion.
Roedd torfeydd o alarwyr wedi cychwyn yn gynnar, gan lenwi tua chwarter y 40,000 o seddau yn y stadiwm.
Cafodd gŵr Albertina, cyn-ysgrifennydd cyffredinol yr ANC, Walter Sisulu, angladd tebyg wedi ei farwolaeth yn 2003. Fel Nelson Mandela, cafodd yntau hefyd ei garcharu am 26 mlynedd am ei weithgareddau yn erbyn cyfundrefn apartheid y wlad.
Pan oedd ei gŵr yn y carchar, fe wnaeth Albertina Sisulu fagu eu pump o blant ac amryw o nithoedd a neiaint ar ei phen ei hun, ac roedd yn ffigur mamol i lawer o bobl ifanc eraill yn Ne Affrica.
Er i Albertina a Walter Sisulu dreulio’u blynyddoedd olaf mewn cymdogaeth lewyrchus yn Johannesburg a arferai gael ei neilltuo ar gyfer pobl wyn, dechreuodd yr angladd heddiw o’u hen dŷ yn Soweto.
Ymgyrchydd
Fel ymgyrchydd yn erbyn apartheid a thros hawliau merched a phlant, Albertina Sisulu oedd arweinydd y Ffrynt Unedig Democrataidd, partneriaeth a ddaeth â mudiadau crefyddol, llafur a chymunedol at ei gilydd yn yr 1980au.
Dioddefodd fisoedd yng ngharchar a chyfyngiadau ar ei symudiadau oherwydd ei safiad.
Yn ddiweddarach, fe wasanaethodd fel aelod seneddol am bedair blynedd, ar ôl cwymp y gyfundrefn apartheid, a hi a gafodd yr anrhydedd i enwebu Nelson Mandela fel arlywydd du cynta’r wlad yn 1994.