Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae unben Libya, Muammar Gaddafi, wedi gorchymyn ei filwyr i dreisio gwrthwynebwyr benywaidd, yn ôl adroddiadau.
Mae yna dystiolaeth fod y weinyddiaeth wedi cael gafael ar gyffuriau tebyg i Viagra er mwyn rhoi cymorth i’r milwyr.
Daw’r honiadau gan ymchwilwyr y Llys Troseddol Rhyngwladol sy’n dweud fod ganddyn nhw dystiolaeth sy’n cysylltu Gaddafi i’r polisi ac y gallen nhw ei gyhuddo o drosedd.
Mae’r erlynydd Luis Moreno-Ocampo eisoes wedi gwneud cais am warant i arestio Gaddafi, ei fab Saif al-Islam a phennaeth gwasanaethau ysbio’r wlad ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth.
Dywedodd wrth Reuters mai’r cwestiwn mawr ydi a oedd modd cysylltu Gaddafi â’r treisio ynteu oedd yn rhywbeth “ddigwyddodd yn y baracs”.
Ond ychwanegodd fod dystiolaeth bod Gaddafi wedi rhoi sêl bendith i’r troseddau “a bod hynny yn newydd”.
Roedd ei dim ymchwiliadol wedi dod o hyd i “elfennau newydd” oedd yn cadarnhau fod y weinyddiaeth wedi prynu “meddyginiaeth fel Viagra”.
Ychwanegodd fod gannoedd o ddioddefwyr posib mewn rhai ardaloedd.