Libya
Mae hofrenyddion o wledydd Prydain wedi cymryd mewn ymosodiadau yn Libya, yn ôl yr Weinyddiaeth Amddiffyn.

Y gred ydi mai hofrenyddion RAF Apache oedd yn gyfrifol am daro dau darged allweddol ger tref Brega dros nos, yn yr ymosodiad diweddaraf gan luoedd NATO yn erbyn lluoedd arlywydd Libya, Muammar Gaddafi.

Fe gychwynnodd yr hofrenyddion ar eu taith o HMS Ocean, llong ryfel sydd wedi’i lleoli oddi ar arfordir Libya, cyn dychwelyd yno’n ddiogel yn ystod oriau mân bore heddiw.

“Fe ddaeth pob un  o’r hofrenyddion yn eu holau yn ddiogel i HMS Ocean,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn. “Fe fydd rhagor o fanylion am yr ymgyrch yn cael eu rhyddhau’n fuan.”

Yn ôl adroddiadau, fe danwyd taflegrau at safle radar ac at checkpoint sy’n cael eu rheoli gan luoedd teyrngar i Gaddafi. Roedd hofrenyddion Gazelle o Ffrainc hefyd yn rhan o’r ymosodiadau.

Mae NATO wedi cadarnhau fod hofrenyddion wedi cael eu defnyddio am y tro cyntaf i ymosod ar dargedau yn Libya. Mae targedau yn cynnwys cerbygau milwrol, offer milwrol a lluoedd ar lawr gwlad.