e.coli
Gyda bacteria E.coli yn y newyddion unwaith yn rhagor, mae gwaith ymchwil gan arbenigwyr glendid, Initial, yn dweud mai dim ond un o bob tri o bobol gwledydd Prydain sy’n golchi’i ddwylo ar ôl bod yn y ty bach.

Gan fod E.coli yn gallu ymledu o berson i berson yn eitha’ rhwydd, mae Initial yn dweud bod yna le i boeni tros ganlyniadau’r ymchwil sy’n dweud:

  • Mae 63% (bron iawn dwy o bob tair) o wragedd gwledydd Prydain yn cyfaddef peidio golchi eu dwylo ar ôl bod yn y ty bach
  • Mae 73% (bron i dri chwarter) dynion gwledydd Prydain yn cyfaddef peidio â golchi eu dwylo
  • Dim ond un o bob tri o bobol Prydain sydd “bob amser” yn golchi ei ddwylo ar ôl bod yn y toiled

Fe gafodd gwaith ymchwil Initial ei wneud ar draws cyfandir Ewrop. Cafodd 6,000 o bobol eu holi mewn saith o wledydd. Roedd 2,100 o’r bobol hynny yn byw yng ngwledydd Prydain.