Mae o leiaf dri o bobl wedi cael eu lladd yn America wrth i ragor o stormydd geirwon ysgubo ar hyd arfordir dwyreiniol y wlad o New England yn y gogledd i Georgia yn y de.

Fe fu farw dwy ddynes wrth i goeden ddisgyn ar gerbyd yn Atlanta, prifddinas Georgia, a chafodd dyn 19 oed hefyd ei ladd wrth gael ei daro gan goeden yn y ddinas.

Fe fu’n rhaid i tua 200 o bobl adael eu cartrefi yn nhalaith Vermont wrth i afonydd orlifo’u glannau, ac mae strydoedd y brifddinas Montpelier o dan ddŵr.

Mae Pennsylvania wedi cael ei tharo gan stormydd tornado am yr ail waith yr wythnos yma, gyda rhai ohonyn nhw’n cyrraedd cyflymder o 90 milltir yr awr a chwythu coed i lawr a thorri gwifrau trydan.

Mae cannoedd o filoedd o bobl heb drydan yn Georgia, Pennsylvania ac Efrog Newydd, a a chafodd awyrennau a oedd yn gadael o faes awyr Atlanta, un o feysydd awyr prysuraf y byd, eu gohirio am dros ddwyawr.