Ed balls - 'anhrefn'
Roedd cyn Ysgrifennydd Plant wedi creu “anhrefn llwyr” yn ei adran, yn ôl y wraig sy’n debyg o ennill arian mawr am gael ei diswyddo’n annheg tros achos Babi P.

Mae cyn Gennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Haringey’n dweud nad oedd hi wedi ystyried arian wrth ddod â’i hachos yn erbyn y Cyngor a’r Llywodraeth.

Ddoe fe benderfynodd y Llys Apêl bod rheolau cyfiawnder naturiol wedi eu torri’n llwyr wrth iddi gael ei diswyddo tros yr achos, heb iawndal na chyfle i ddadlau ei hachos.

Er hynny, mae’r Adran Addysg wedi gwneud yn glir y byddan nhw’n ceisio cael hawl i apelio’n erbyn y penderfyniad diweddara’.

‘Pwysau gwleidyddol’

Roedd Sharon Shoesmith wedi hawlio ei bod wedi ei diswyddo oherwydd pwysau gwleidyddol gan y Gweinidog Plant ar y pryd, Ed Balls, ac oherwydd erlid gan y wasg.

“Dw i’n dal i ryfeddu at pa mor anghyfrifol oedd yr Ysgrifennydd Gwladol,” meddai wrth bapur newydd y Guardian heddiw.

“Fe ddangosodd ei ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol i blant. Dyma oedd ei adran e ond fe weithredodd mewn ffordd a greodd anhrefn llwyr.”

Mae Ed Balls ei hun wedi dweud y byddai’n gwneud yr un penderfyniadau eto.