Mae dau ddyn wedi creu hanes heddiw trwy orffen adeiladu’r Orsaf Ryngwladol yn y gofod.

“Yr orsaf yma ydy pinacl dynolryw a chydweithio rhyngwladol,” meddai’r gofodwr Gregory Chamitoff o’r orsaf yn y gofod.

“Wedi deuddeng mlynedd o adeiladu gan 15 o wledydd dyma’r Parthenon yn yr awyr a gobeithio stepan drws i’r dyfodol. Felly llongyfarchiadau i bawb am gwblhau’r gwaith.”

Mi lwyddodd Gregory Chamitoff a’i bartner Mike Fincke I osod y bŵm ola’ i’r orsaf gyda chymorth robot oedd yn cael ei reoli gan Gregory Johnson.