Ratko Mladic (Evstefiev Mikhail CCA 3.0)
Roedd dal yr arweinydd milwrol, Ratko Mladic, yn “ennyd hanesyddol” meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.

Fe ddywedodd ei bod yn hollol iawn bod y Serbiad bellach yn wynebu cyhuddiadau o droseddau’n erbyn y ddynoliaeth yn Llys Rhyngwladol yr Hague.

Fe gyhoeddodd Arlywydd Serbia heddiw eu bod wedi dal y dyn sy’n cael ei gyhuddo o fod y tu cefn i’r lladdfa yn Srebrenica yn ystod rhyfeloedd gwaedlyd gwledydd y Balcan yn yr 1990au.

Yn ôl Borsi Tadic, roedd dal cyn arweinydd byddin y wlad yn cau pennod yn ei hanes hi ac yn ei gwneud hi’n haws i Serbia gael ei derbyn i’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mladic wedi bod ar ffo ers diwedd y rhyfeloedd 16 mlynedd yn ôl.