Silvio Berslusconi
Dyw mab y Cyrnol Gaddafi ddim wedi cael ei ladd mewn ymosodiad gan NATO, meddai Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Bersluscotni.

Mae’r cynghreiriaid yn credu mai propaganda yw’r honiadau, meddai’r gwleidydd wrth raglen sgwrsio yn yr Eidal.

Yn ôl asiantaeth newyddion ANSA, roedd Berlusconi’n hawlio nad oedd yr honiadau’n “cyfri llawer gyda’r cynghreiriaid. Mae’n ymddangos yn bropaganda llwyr, ac dyw mab ieuengaf Gaddafi yn Libya o gwbwl, ond yn byw mewn gwlad arall”.

Ychwanegodd fod yr adroddiadau am farwolaeth dri o wyrion y Cyrnol Gaddafi hefyd yn ymddangos yn “ddisail.”

NATO – ‘pob targed yn filwrol’

Dyw NATO erioed wedi cadarnhau na gwadu’r adroddiadau am y marwolaethau, a gyhoeddwyd gan lefarydd Llywodraeth Libya, ddechrau mis Mai.

Mae swyddogion Libya yn dweud fod Gaddafi hefyd yn ei gartref pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar 30 Ebrill, ond ei fod wedi dianc yn ddi-anaf.

Mae NATO wedi mynnu sawl tro fod bob targed yn Libya yn filwrol, ac nad oes bwriad ganddyn nhw i dargedu Gaddafi nac unigolion eraill.

Mae’r Eidal, a oedd yn rheoli Libya ar un cyfnod, bellach yn cymryd rhan yn yr ymosodiadau awyr ac wedi caniatau i’r cynghreiriaid ddefnyddio eu canolfannau awyr.

Roedd Silvio Berlusconi wedi ystyried Gaddafi yn ffrind ers blynyddoedd, a dywedodd ei fod wedi ystyried ymddiswyddo wedi i’r Eidal gael ei thynnu i ymgyrchu gyda’r cynghreiriaid.