Barack Obama a'r Frenhines
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn mynnu heddiw fod cyfeillgarwch yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn allweddol er mwyn sicrhau diogelwch y byd.

Bydd yr Arlywydd a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn treulio dydd Mercher yn cynnal trafodaethau ar Libya, Afghanistan, a’r economi.

Uchafbwynt y diwrnod fydd araith Barack Obama yn Neuadd San Steffan. Mae disgwyl iddo ddweud wrth Aelodau Seneddol ac Arglwyddi mai perthynas yr Unol Daleithiau ac Ynysoedd Prydain yw’r sail i ddiogelwch gweddill y byd.

Bydd hefyd yn dweud fod y chwyldro yn y Dwyrain Canol wedi cadarnhau fod credoau’r ddwy wlad “nid yn unig yn berthnasol ond yn hanfodol”.

Fe fydd yn ychwanegu ei fod yn credu fod y byd “wedi troi cornel” ar ôl “degawd anodd”.

Mae’r rhyfel yn Irac yn dod i ben, pobol Afghanistan yn dechrau cymryd rheolaeth dros y wlad, ac Al Qaida wedi eu “gwanhau” gan ladd Osama bin Laden, meddai.

Mewn gwledd foethus er anrhydedd yr Arlywydd ddydd Mawrth, cynigiodd y Frenhines lwncdestun iddo gan ddweud mai’r Unol Daleithiau oedd “cyfaill pwysicaf” y Deyrnas Unedig.

Mynnodd fod y berthynas yn “wedi gweithio dros y blynyddoedd – ac yn arbennig” a bod y ddwy wlad wedi cyfrannu at ddiogelwch a ffyniant gweddill y byd.

Ymatebodd Barack Obama â’i lwnc destun ei hun, gan ddiolch am “aberth” y Deyrnas Unedig wrth frwydro ochr yn ochr â’r Unol Daleithiau yn erbyn terfysgaeth.