Môr-ladron wedi eu dal oddi ar arfordir Somalia
Mae lluoedd arfog China wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ymosod ar gadarnleoedd môr-ladron Somalia.

Mae’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill wedi osgoi ymosod ar y môr ladron ar dir Somalia fel nad ydyn nhw’n cael eu llusgo i ganol rhyfel cartref y wlad.

Mae’r wlad yn ddigyfraith ac fe gafodd 18 o filwyr yr Unol Daleithiau eu lladd yn y brifddinas Mogadishu yn 1993.

Serch hynny, mewn cynhadledd i’r wasg yn Washington, dywedodd y Cadlywydd Chen Bingde ei fod yn credu y byddai’n rhaid ymosod ar y môr-ladron yn eu cadarnleoedd.

Ychwanegodd mai dyna’r unig fodd o sicrhau fod yr ymgyrch yn erbyn môr-ladron oddi ar arfordir Somalia yn effeithiol.

Mae llynges China wedi bod yn gwarchod Gwlff Aden ers mis Rhagfyr 2008, ond dyma’r tro cyntaf i’r llywodraeth annog ymosod ar y môr-ladron ar eu tir eu hunain.