Yr Arlywydd Assad (Rakkar CCA 3.0)
Fe gafodd rhagor o brotestwyr eu lladd yn Syria wrth i luoedd diogelwch y wlad ymosod arnyn nhw.
Roedd miloedd o bobol wedi llifo i’r strydoedd mewn sawl rhan o’r wlad, gan gynnwys y brifddinas, Damascus.
Yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol, roedd tua 27 o bobol wedi cael eu lladd, gan gynnwys un bachgen 10 oed.
Dyma’r digwyddiad diweddara’ mewn deufis o brotestio tros ddemocratiaeth a hawliau dynol yn Syria, gyda channoedd o bobol wedi eu lladd a miloedd wedi eu harestio.
Mwy’n protestio
Ar ôl arwyddion fod tactegau ymosodol y Llywodraeth yn gweithio, roedd y protestiadau ddoe’n fwy nag yn ddiweddar.
Yr wythnos hon, fe roddodd Arlywydd yr Unol Daleithiau rybudd i Arlywydd Syria, Bashar Assad, y dylai wrando ar y protestwyr a symud at ddemocratiaeth.
Fel arall, fe ddylai gamu o’r neilltu, meddai Barack Obama, mewn araith bwysig ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau.