Llysoedd Aberhonddu
Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o ddwyn arian o fanc ym Machynlleth.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am ddau ddyn gwyn sydd hefyd yn cael eu hamau o fod yn rhan o’r drosedd.

Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo am yr ymosodiad ddydd Iau yn 24 oed ac yn dod o ardal Birmingham.

Roedd yr ymosodiad wedi digwydd wrth fynedfa Banc Barclays pan gafodd arian ei gymryd oddi ar swyddog diogelwch a oedd yn gweithio i gwmni preifat.

Mae’r heddlu hefyd wedi dod o hyd i’r “swm sylweddol” o arian a gafodd ei ddwyn – roedd wedi ei adael mewn cae ger Y Trallwng.

Fe fydd y dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberhonddu.