Dominique Strauss-Kahn
Mae pennaeth prif gorff ariannol y byd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar forwyn mewn gwesty.

Fe gadarnhaodd heddlu Efrog Newydd fod prif swyddog y Gronfa Ariannol Ryngwladol – yr IMF – wedi cael ei dynnu oddi ar awyren wrth iddo geisio gadael y wlad.

Maen nhw’n dweud eu bod yn holi Dominique Strauss-Kahn ar amheuaeth o fod wedi dal morwyn yn erbyn ei hewyllys o fod wedi ymosod yn rhywiol arni ac o geisio’i threisio.

Dyw’r cyn weinidog yn Llywodraeth Ffrainc a’r ymgeisydd tebygol am arlywyddiaeth y wlad ddim wedi gwneud datganiad ond mae wedi cyflogi cyfreithiwr. Dyw’r IMF ddim wedi rhoi sylw chwaith.

Noeth

Yn ôl yr heddlu, roedd y forwyn 32 oed wedi mynd i ystafelloedd Dominique Strauss-Kahn mewn gwesty crand o’r enw Sofitel ac roedd y gwleidydd wedi dod allan o ystafell folchi yn noeth ac wedi ymosod arni.

Roedd Dominique Strauss-Kahn, sy’n 62 oed ac yn dad i bedwar o blant, i fod i gymryd rhan mewn cyfarfodydd pwysig ddechrau’r wythnos yma, gan gynnwys un yn yr Almaen ynglŷn â dyledion Gwlad Groeg.