Muammar Gaddafi
Mae arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, wedi ymddangos ar deledu’r wlad gan ddweud ei fod yn fyw a chan honni ei fod yn ddiogel o gyrraedd lluoedd Nato.

Cafodd ei neges ei darlledu neithiwr ar ôl i lywodraeth Libya gyhuddo Nato o ladd 11 o glerigwyr Mwslimaidd mewn ymosodiad o’r awyr.

Dyma’r tro cyntaf i Gaddafi gael ei weld ers ymosodiad gan Nato ar ei bencadlys yn Tripoli bythefnos yn ôl, pryd yr adroddwyd bod un o’i feibion a thri o’i wyrion wedi cael eu lladd.

“Dw i’n dweud wrth y croesgadwyr llwfr – dw i’n byw mewn lle na allwch fy nghyraedd a’m lladd,” meddai. “Dw i’n byw yng nghalonnau miliynau.”

Cafodd ei ddatganiad ei ddiystyru gan Nato.

“Dydyn ni ddim yn ei dargedu ef, mae’n targedau ni’n rhai milwrol yn unig,” meddai llefarydd ar ran y gynghrair filwrol.