Osama bin Laden
Mae’r Unol Daleithiau wedi gwneud “camgymeriad mawr” a chyflawni “pechod mawr” wrth ladd Osama bin Laden, meddai mudiad terfysgol Al Qaida.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar y we, cyhoeddodd asiantaeth newyddion swyddogol Al Qaida, al-Fajr, y bydd pobol yr Unol Daleithiau yn “talu’r pris” am ladd eu harweinydd.

Cafodd Osama bin Laden ei ladd gan filwyr o’r Unol Daleithiau mewn cuddfan ym Mhacistan ar 2 Mai.

Mae’r neges yn cyfaddef fod arweinydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi ei “amddiffyn gan fyddin” ond nad oes unrhyw beth yn gwarchod Americanwyr cyffredin.

“Pwy fydd yn eich amddiffyn chi pan fyddwn ni’n ymosod?” meddai’r neges.

Mae’r neges yn dweud y dylai marwolaeth Osama bin Laden ysgogi Mwslemiaid cyffredin i ymosod ar bobol y wlad.

Darparwyd cyfieithiad o’r neges gan grŵp cudd-wybodaeth SITE Intel sy’n cadw llygad ar negeseuon grwpiau terfysgol.