Mae’r cyn-filwr olaf i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-18 wedi marw yn 110 oed.
Roedd Claude Stanley Choules, a aned yn swydd Gaerwrangon chwe wythnos ar ôl marwolaeth y Frenhines Victoria yn 1901, wedi ymuno â’r Llynges yn 14 oed.
Fe ddechreuodd fel un o griw’r llong ryfel HMS Revenge yn yr Alban yn 16 oed, ac roedd yn dyst i fflyd yr Almaen yn ildio yn y Firth of Forth ym mis Tachwedd 1918.
Ymfudodd i Awstralia yn yr 1920au a gwasanaethodd luoedd arfog y wlad honno am 41 mlynedd cyn ymddeol.
Fe fu farw mewn cartref nyrsio yn Perth, Gorllewin Awstralia.