Arlywydd America, Barack Obama
Mae Arlywydd America, Barack Obama, wedi cyrraedd Efrog Newydd i ymweld â Ground Zero mewn teyrnged i ddioddefwyr 9/11 – ddyddiau ar ôl i’r terfysgwr Osama bin Laden gael ei ladd.

Yn gynharach roedd yr arlywydd wedi cyhoeddi na fyddai’n cyhoeddi lluniau o gorff bin Laden, gan y gallai natur erchyll y lluniau ysgogi mwy o drais a ac achosi rhagor o beryglon i’r Unol Daleithiau.

Fe fu o dan rywfaint o bwysau i gyhoeddi lluniau o’r fath er mwyn dangos prawf cwbl ddiymwad fod bin Laden wedi cael ei ladd gan luoedd arbennig America nos Sul.

Ond dywedodd yr Arlywydd Obama nad oedd unrhyw amheuaeth fod bin Laden wedi marw ac na fyddai cyhoeddi lluniau o’i gorff yn cyflawni dim.

“Fyddai dim budd mewn gorfoleddu,” meddai. “Mae yna rai pobl sydd am wadu hyn. Y ffaith yw na fyddwch chi’n gweld bin Laden yn cerdded ar y ddaear yma eto.”

Dywed swyddogion yn llywodraeth America fod bin Laden wedi cael ei adnabod mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys profion DNA.

Erchyll

Mae lluniau a gafodd eu tynnu o bin Laden gan y milwyr a’i lladdodd yn ei ddangos wedi ei saethu yn ei ben.

“Mae’n bwysig inni sicrhau na fydd lluniau erchyll o rywun sydd wedi cael ei saethu yn ei ben yn hofran o gwmpas fel symbyliad i drais ychwanegol, a dw i’n meddwl y byddai hynny’n arwain at rywfaint o risg i’n diogelwch cenedlaethol,” meddai’r Arlywydd Obama.