to
Tornado yn yr Unol Daleithiau yn 1999
Mae nifer y meirw yn stormydd gwynt yr Unol Daleithiau wedi codi i fwy na 200 ac mae disgwyl i’r rhifau godi eto.

Mae’r gyfres o drowyntoedd tornado sydd wedi taro ers neithiwr yn waeth na dim sydd wedi bod yn y wlad ers 40 mlynedd.

Talaith Alabama sydd wedi cael ei tharo waetha’, gydag 131 o bobol wedi marw eisoes, adeiladau a ffyrdd wedi’u dinistrio a thua miliwn o bobol heb drydan.

Ymhlith y marwolaethau eraill, roedd 32 yn nhalaith Mississippi, 15 yn Tennessee a 13 yn Georgia.

Yn ôl Llywodraethwr Alabama, roedd 2,000 o filwyr wedi bod yn helpu ac roedd y gwasanaeth rhybuddio wedi bod yn dda.

“Ond dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud i osgoi tornado sydd filltir ar ei draws,” meddai.