Mae toriadau’r Llywodraeth yn Llundain yn peryglu’r gwaith o dorri ar droseddu, meddai un o arweinwyr y Blaid Lafur.

Roedd y toriadau’n arwain at gwtogi nifer plismyn ac roedd hynny’n “annheg, yn annoeth ac yn anniogel”, meddai Yvette Cooper, y llefarydd Llafur ar faterion cartref.

Roedd y Llywodraeth yn mentro mewn ffordd annerbyniol, meddai.

Colli swyddi

Wrth ymweld â gogledd Cymru i ganfasio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, fe ddywedodd bod y toriadau’n arwain at golli 600 o swyddi mewn heddluoedd trwy Gymru.

Yn groes i hynny, fe fyddai Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn cyflogi 500 yn rhagor o swyddogion heddlu cymunedol.

Yn ôl Llafur, mae ffigurau o Wrecsam yn dangos bod presenoldeb swyddogion o’r fath yn torri ar lefelau troseddu.