Mae swyddog ym myddin Afghanistan wedi lladd wyth o filwyr NATO cyn ei ladd ei hun.

Fe ddywedodd Gweinyddiaeth Amddiffyn Afghanistan bod y dyn, a oedd yn beilot, wedi dechrau saethu “ yn dilyn ffrae.”


Logo NATO
Er bod gwrthryfelwyr y Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, mae’r Llywodraeth yn gwadu ei fod yn ddigwyddiad terfysgol.

Fe ddywedodd y Taliban bod y dyn yn esgus bod yn aelod o luoedd arfog Afghanistan a bod eraill o fewn y cyfleuster milwrol wedi helpu iddo fynd i mewn.

Ond mae llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Amddiffyn Afghanistan yn mynnu bod y dyn wedi bod yn beilot milwrol ers 20 mlynedd.

“Roedd yna ffrae rhyngddo ef a’r tramorwyr ac fe fydd rhaid i ni ymchwilio i hynny,” meddai’r llefarydd.

Ers mis Mawrth 2009 mae yna 20 digwyddiad wedi bod lle mae aelod o luoedd afog Afghanistan neu rywun oedd yn gwisgo gwisg y lluoedd wedi ymosod ar filwyr tramo, gan ladd 36.