pacistan
Mae o leiaf 22 o bobol wedi cael eu lladd wedi i daflegrau Americanaidd gael eu tanio ar y ffin rhwng Affganistan a Phacistan.
Fe ddaeth yr ymosodiad ddiwrnod wedi i bennaeth byddin Pacistan ddweud mai pethau “diffrwyth” a “gwrth-gynhyrchiol” oedd gweithredu o’r fath.
Mae swyddogion yn dweud fod yr ymosodiad wedi targedu pentref Spinwam yng ngogledd Waziristan – ardal y llwythau. Maen nhw’n dweud fod rhai pobol gyffredin wedi cael eu lladd.
Mae gogledd Waziristan yn cael ei ystyried yn fangre’r Taliban sy’n ymosod ar luoedd y Gorllewin yn Affganistan.