Barack Obama
Fe fydd yr Unol Daleithiau’n defnyddio awyrennau di-beilot yn erbyn lluoedd y Cyrnol Gaddafi yn Libya.

Fe wnaed y penderfyniad ddoe gan yr Arlywydd Barack Obama – fe fydd yr awyrennau Predator yn cario taflegrau ac maen nhw eisoes yn cael eu defnyddio ym Mhacistan.

Yn ôl yr Unol Daleithiau, fe fydd y taflegrau’n fwy cywir nag awyrennau ac yn caniatáu iddyn nhw amddiffyn rhagor o bobol gyffredin.

Ond, yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Libya, maen nhw’n debyg o ladd rhagor o bobol ddiniwed.

Llong yn cyrraedd o Misrata

Y n y cyfamser, mae llong wedi cyrraedd dinas Benghazi o dref Misrata lle mae lluoedd Gaddafi’n parhau i ymosodo.

Mae cannoedd o bobol ar ei bwrdd gan gynnwys rhai sydd wedi eu brifo yn yr ymladd.

Ac mae’r Seneddwr John McCain ar ei ffordd o’r Unol Daleithiau i Libya i gwrdd â’r gwrthryfelwyr.

Mae’r cyn ymgeisydd am arlywyddiaeth America’n un o gefnogwyr amlwg yr ymyrraeth yno.