Cyrnol Muammar Gaddafi
Mae lluoedd sy’n deyrngar i Muammar Gaddafi yn Libya wedi bod wrthi’n bomio dinas Ajdabiya, dinas yn nwyrain y wlad sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Mae’r ymosodiadau gan y llywodraeth yn ergyd i’r gwrthryfelwyr, ddiwrnod ar ôl brwydro ffyrnig rhwng y ddwy ochr ar gyrion tref olew Brega, tua 60 milltir i’r gorllewin.

Mae llawer o gerbydau’r gwrthryfelwyr wedi cael eu gweld yn ffoi o Ajdabiya tua’r gogledd at Benghazi, eu prif gadarnle.

Yn gynharach, fe fu lluoedd Gaddafi yn tanio rocedi at Misrata – yr unig ddinas yng ngorllewin y wlad sy’n dal yn nwylo’r gwrthryfelwyr – ac yn ôl mudiad hawliau dynol mae bomiau clwstwr wedi cael eu defnyddio yno.

Yn wyneb yr holl ymosodiadau mae’r gwrthryfelwyr yn apelio ar i wledydd Nato wneud mwy i’w hamddiffyn rhag Gaddafi.

Meddai Abdel-Hafidh Ghoga, llefarydd ran ran y gwrthryfelwyr yn Benghazi:

“Does dim lle i betruso nac i beidio â sefyll yn benderfynol yn erbyn yr hyn sy’n digwydd yn Misrata a dinasoedd eraill yn Libya, oherwydd mae’r dinistr sy’n cael ei achosi gan Gaddafi yno’n fawr ac yn helaeth.”