Adweithyddion 1 - 4 yn Fukushima
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am orsaf Fukushima Dai-Ichi yn chwilio am ffyrdd newydd o dynnu ffyn tanwydd o bwll yn un o adweithyddion yr orsaf.
Maen nhw’n poeni oherwydd cynnydd mewn ymbelydredd yn y safle, a chynnydd yn y tymheredd yn yr atomfa.
Daw hyn wrth i ragor o bobl feirniadu cwmni Tepco am eu ffordd o drin y problemau a gododd yn sgil daeargryn a tswnamni 11 Mawrth.
Mae atgyweirio’r systemau yn debyg o gymryd misoedd wrth i’r wlad gael ei tharo gan dir gryniadau cyson ar ôl y daeargryn.
Codi lefel bygythiad
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Llywodraeth ailfeddwl am lefel bygythiad yr argyfwng – gan ei godi i lefel 7.
Ond, maen nhw’n dweud bod cyfanswm yr ymbelydredd sy’n gollwng o’r orsaf niwclear tua 10% yr hyn oedd wedi gollwng o Chernobyl yn ystod trychineb 1986.
Mae lefel 7 yn dynodi “damwain ddifrifol” â “chanlyniadau pellgyrhaeddol”. Dyna’r lefel uchaf ar y raddfa gafodd ei chreu gan banel o arbenigwyr o’r Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol yn 1989.
Symud ffyn tanwydd
Fe ddywedodd swyddogion Tepco ddoe eu bod yn trafod ffyrdd o symud ffyn tanwydd o byllau dŵr yn yr adweithyddion a’u cau.
Roedd y sefyllfa ar ei gwaetha’ yn adweithydd rhif pedwar, a oedd ynghau yn ystod y trychineb oherwydd gwaith cynnal a chadw.
Yn ôl rheolwr Tepco, Junichi Matsumoto roedd ïodin 131, caesium 134 a caesium 137 yn y pwll dŵr yn yr adweithydd, a fydden nhw ddim yno fel rheol.
Nifer y meirw’n codi
Mae’r heddlu yn Japan yn dweud bod y daeargryn a’r tsunami enfawr fis Mawrth wedi lladd 13,439 o bobl a bod 14,867 ar goll.
Mae nifer y bobol sydd ar goll wedi codi yn y diwrnodau diwethaf oherwydd mai dim ond yn awr y mae rhai o’r manylion yn cael eu cyhoeddi.