Gorsaf Fukushima Dai-ichi yn Japan (AP Photo/DigitalGlobe)
Mae ffoaduriaid sydd wedi’u gorfodi o’u cartrefi ger gorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi yn Japan wedi bod yn protestio y tu allan i bencadlys y cwmni sy’n rhedeg yr orsaf gan fynnu iawndal.

“Fedra i ddim fforddio gweithio ac mae hynny’n golygu bod gen i ddim arian,” meddai Shigeaki Konno, 73 oed, mecanic sy’n byw saith milltir o’r orsaf niwclear yn Fukushima Dai-ichi.

Fe gafodd ei symud o’i gartref ynghyd â miloedd o bobl eraill wrth i bryderon am yr ymbelydredd barhau.

Mae’r brotest – gan tua 20 o fusnesau bach yn y gymuned ger yr orsaf – yn adlewyrchu rhwystredigaeth y cyhoedd gyda’r cwmni, Tepco, am y ffordd maen nhw wedi delio â’r argyfwng.

‘Gwneud mwy’

Mae Masataka Shimizu, llywydd Tepco, ynghyd â phenaethiaid eraill, wedi ymddiheuro eto gan addo gwneud mwy i helpu pobl sy’n methu mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl y trychineb.

Fe ddywedodd y byddai’r cwmni’n “gwneud eu gorau” i reoli adweithyddion yr orsaf a lleihau’r ymbelydredd sy’n gollwng ar ôl i’r wlad godi lefel bygythiad y trychineb i lefel argyfwng Chernobyl.

Mae Kensuke Takeuchi, rheolwr Tepco wedi dweud wrth brotestwyr  nad yw’r cwmni’n barod i roi dim arian eto, ond mae wedi addo trosglwyddo gofynion y bobl i’r lefel reoli uchaf.

Mae’r trychineb wedi taro ffermwyr yr ardal yn ogystal â physgotwyr yng ngogledd ddwyrain Japan.

Mae Llywodraeth y wlad wedi israddio’u rhagolwg economaidd am y tro cyntaf ers chwe mis heddiw, maen nhw’n dweud y bydd cwymp mewn  cynhyrchu a gwariant yn effeithio ar raddfa twf.