Mae un o’r ffefrynnau i ennill enwebiad y Gweriniaethwyr yn Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll.

Cyn-lywodreathwr Massachusetts, Mitt Romney, yw’r ail Weriniaethwr o bwys i gyhoeddi y bydd yn herio Barack Obama yn 2012, gan ddatgan ei fwriad i “adfer mawredd America”.

Mae ceffyl blaen arall, cyn-lywodreathwr Minnesota, Tim Pawlenty, eisoes wedi dechrau codi arian a chyflogi gweithwyr.

Roedd Mitt Romney hefyd yn ymgeisydd yn Etholiad Arlywyddol 2008, pan gipiodd John McCain yr enwebiad oddi arno. Bryd hynny fe gafodd y ffaith ei fod yn perthyn i’r Eglwys Formonaidd lawer iawn o sylw yn y wasg.

Cyhoeddodd y byddai’n sefyll mewn fideo wedi ei greu ym Mhrifysgol New Hampshire – y dalaith a fydd yn pleidleisio gyntaf i
Mitt Romney yn y fideo
enwebu ymgeisydd y Gweriniaethwyr.

Dywedodd ei fod yn “argyhoeddedig fod gwleidyddion Washington yn mynd i’r cyfeiriad anghywir, a bod pethau wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd diwethaf”.

Mitt Romney yw’r ffefryn i gael ei enwebu ar hyn o bryd ond mae yna sawl ymgeisydd posib arall, gan gynnwys Michelle Bachmann o fudiad gwleidyddol y Tea Party.